Ers 2008, mae Pure Perfection wedi dwyn ynghyd arbenigedd clinigol, triniaethau uwch a gwir ofal personol. Mae'r hyn a ddechreuodd ag angerdd dros groen wedi esblygu i fod yn glinig arobryn sy'n cwmpasu Croen, Estheteg, Dermatoleg, y Menopos, a Lles a Hirhoedledd. A bydd ein hymarferwyr profiadol yn eich cefnogi trwy bob cam o fywyd.
Rhowch gynnig ar rai o'n triniaethau mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd. Ynghyd â system brofedig lle mae pentyrru triniaethau'n gweithio i gael y gorau o'ch hoff driniaeth ddewisol.
Meddalu llinellau mynegiad wrth gadw symudiad naturiol yr wyneb. Mae ein dull dan arweiniad clinigol wedi'i deilwra i anatomeg eich wyneb, gan greu ymddangosiad mwy ffres, heb ymddangos yn ormod.
Yn gwneud i’r wyneb edrych yn llawnach eto, mireinio cyfuchliniau'r wyneb, a dod â chydbwysedd yn ôl i'ch nodweddion. Mae pob triniaeth wedi'i chynllunio'n unigol o amgylch strwythur eich wyneb, gyda gwelliant cynnil a canlyniadau naturiol yn ganolog iddi.
Sgrwbiwch, adnewyddwch ac adferwch eich croen gyda gofal croen Viderma Pure Perfections. Gellir ei bersonoli i chi ar gyfer rhaglen gofal croen bwrpasol. Yn helpu i gael croen sy'n edrych yn iachach rhwng apwyntiadau.
Rhowch gynnig ar rai o'n triniaethau mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd. Ynghyd â system brofedig lle mae pentyrru triniaethau'n gweithio i gael y gorau o'ch hoff driniaeth ddewisol.
Dyna beth yw pwrpas eich ymgynghoriad.
Efallai eich bod chi'n gwybod yn union beth sy'n eich poeni heb wybod pa driniaeth, os o gwbl, sy'n iawn i chi. Mae eich ymgynghoriad yn rhoi'r amser inni ddeall eich pryderon yn iawn cyn gwneud unrhyw argymhellion.
Lle bo'n briodol, mae hyn yn cynnwys asesiad croen manwl gan ddefnyddio system dadansoddi croen VISIA, ochr yn ochr â ffotograffiaeth glinigol i roi darlun cliriach i ni o'ch croen a sefydlu gwaelodlin ddefnyddiol. Yna, gallwn greu cynllun personol yn seiliedig ar yr hyn a welwn, yr hyn yr hoffech chi ei gyflawni, a'r hyn rydyn ni wir yn credu fydd o fudd i chi.
Gallai hynny olygu un driniaeth, cyfuniad o ddulliau, neu gynllun tymor hwy. Ac os nad ydyn ni’n credu bod triniaeth yn iawn i chi, byddwn yn dweud wrthych.
Lle Mae Rhagoriaeth Glinigol yn Cwrdd â Gofal Personol
Sefydlwyd Pure Perfection gan y nyrs a'r Cyfarwyddwr Meddygol, Sara Cheeney, ond dechreuodd y stori ymhell cyn hynny. Mi wnaeth profiad personol Sara o fyw gyda psoriasis yn ei harddegau ei chyflwyno i fyd iechyd y croen, clinigau meddygol preifat a meddygaeth esthetig. Dangosodd iddi'n uniongyrchol gymaint o wahaniaeth y gallai gwella cyflwr y croen ei wneud i hyder a lles unigolyn.
Ar ôl hyfforddi fel nyrs a threulio llawer o flynyddoedd yn gweithio i’r GIG, mi wnaeth Sara sefydlu Pure Perfection yn 2008. Ei nod oedd creu'r math o glinig arbenigol y teimlai oedd yn brin yn lleol, gan gyfuno safonau clinigol uchel â thriniaethau croen uwch, technoleg arloesol, a gofal personol go iawn.
Heddiw, mae Sara yn nyrs esthetig, hyfforddwraig, mentor ac yn Arweinydd Barn Allweddol sydd wedi ennill llawer o wobrau. Mae Pure Perfection hefyd wedi datblygu'n glinig amlddisgyblaethol sy'n croesawu cleifion o bob cwr o ogledd Cymru, Swydd Gaer, gogledd-orllewin Lloegr a thu hwnt.
Credwn y dylai gofal o'r safon uchaf fod yn hygyrch. Dewiswch gyllid di-log neu ymunwch â'n rhaglen aelodaeth i fwynhau buddion drwy gydol y flwyddyn.
Rhannwch gost eich buddsoddiad yn daliadau misol fforddiadwy heb unrhyw log.
Mae pecynnau Efydd, Arian, Aur a Phlatinwm yn rhoi mynediad at arbedion a blaenoriaeth wrth archebu.
Gofal croen ac atchwanegion wedi'u dewis yn ofalus i wella effaith eich triniaethau.
Mae triniaethau a thechnolegau newydd yn ymddangos drwy’r amser, ond dydy pob un ohonyn nhw ddim yn ennill ei le yn Pure Perfection.
Rydyn ni’n buddsoddi'n barhaus mewn addysg, hyfforddiant ac arloesedd, gan ystyried yn ofalus y dystiolaeth glinigol, y diogelwch, a'r budd gwirioneddol i gleifion cyn cyflwyno unrhyw driniaeth neu dechnoleg newydd. Os nad yw'n bodloni'r safonau uchel rydyn ni’n eu disgwyl, fyddwn ni ddim yn ei gyflwyno.
Dyna ein hagwedd ers y dechrau’n deg.
Does dim un math o glaf yn Pure Perfection, oherwydd mae'r hyn sydd ei angen arnon ni gan ein croen, ein hiechyd a'n hymddangosiad yn newid drwy gydol ein bywydau. Efallai y byddwch chi’n dod aton ni yn gyntaf am acne neu gyflwr croen parhaus, yn dychwelyd flynyddoedd wedyn wrth i'ch wyneb neu'ch croen ddechrau newid, neu'n chwilio am fath cwbl wahanol o gymorth wrth i chi fynd drwy'r menopos. Efallai y bydd yr hyn sy'n bwysig i chi heddiw yn wahanol iawn ymhen pum neu ddeng mlynedd. Drwy gyfuno Gofal Croen, Estheteg, y Menopos, a Lles a Hirhoedledd, gall Pure Perfection barhau i'ch cefnogi wrth i'r anghenion hynny esblygu.